Mae’r Cyngor Gofal wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y sector gofal plant preswyl sefydliadau gwasanaethau plant i ddatblygu fframwaith datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) ar gyfer rheolwyr a gweithwyr gofal plant preswyl.
Cyhoeddwyd canllaw newydd i gynorthwyo cyflogwyr i gael achrediad i'w rhaglenni dysgu gydol oes ffurfiol ac anffurfiol o dan Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) gan y Cyngor Gofal.
Caiff fframwaith llywodraethu cyntaf Cymru ar gyfer gweithwyr cymorth iechyd a gofal cymdeithasol ei gwblhau cyn hir.
Cynlluniwyd y fframwaith i annog cydweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol drwy helpu i asesu a oes trefniadau llywodraethu cadarn ar waith. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar rôl y gweithiwr cymorth iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd ym maes gwasanaethau i oedolion.
Mae'r ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth newydd arfaethedig ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru bellach wedi cychwyn.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiwedd mis Ionawr y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddi â'i chynlluniau i gyflwyno Bil newydd yn yr hydref.
Mae'r Cyngor Gofal ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi bod yn gweithio ar gynllun ar y cyd i sicrhau y gallant gefnogi’r broses o ddarparu papur polisi Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru, a gyhoeddwyd y llynedd.
Bydd y gwaith hwn a wneir ar y cyd yn chwarae rhan bwysig yn y broses o helpu i wireddu dyhead Llywodraeth Cymru o roi llais cryfach a gwell rheolaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr, er mwyn eu helpu i fwynhau bywydau bodlon.